Lleoliad:
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Chwefror 2023
Amser:
13. -
14.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13216
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Hefin David AS. Mae Mr David yn ymgyrchydd ar y mater hwn a cheisiodd gyflwyno deddfwriaeth yn hyn o beth yn y gorffennol.
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1317 Cydnabod pwysigrwydd Cynorthwywyr Addysgu fel asedau pwysig i ysgolion drwy godi eu cyflog
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn:
a yw’n credu y byddai cynyddu cyllidebau awdurdodau lleol ar gyfer addysg a chlustnodi canran ar gyfer cyflogaeth cynorthwywyr addysgu yn ffordd effeithiol o fynd i’r afael â rhai o’r heriau.
3.2 P-06-1321 Diogelu canolfannau hamdden a phyllau nofio rhag gorfod cau yn ystod yr argyfwng ynni presennol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er ei bod yn siomedig na fydd cyllid yn cael ei glustnodi ar gyfer canolfannau hamdden, roedd y deisebydd wedi teimlo bod cyfarfod diweddar â'r Gweinidog yn ddefnyddiol, a bydd nawr yn canolbwyntio ei ymgyrch barhaus â Llywodraeth y DU. Yng ngoleuni hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd am amlygu’r mater pwysig hwn.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-06-1212 Cyfraith Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor hanes y ddeiseb a nododd ganlyniad llwyddiannus y ddeiseb. Diolchodd yr Aelodau i Leeanne Bartley a’i theulu, a phawb sydd wedi ymgysylltu â’r ymchwiliad hwn, ac wedyn cytunodd i gau’r ddeiseb.
4.2 P-06-1213 Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb, ac yng ngoleuni deddfwriaeth newydd y DU i erlyn o ran defnydd anghyfrifol a pheryglus o gychod dŵr, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn a yw’n bwriadu gwella'r amddiffyniad i fywyd gwyllt ar ein harfordiroedd.
4.3 P-06-1287 Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau'r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am ei barn ar y cwestiynau a godwyd yng ngohebiaeth y deisebydd.
4.4 P-06-1323 Gofynnwn i Lywodraeth Cymru brynu Neuadd Dewi Sant fel adnodd cenedlaethol i Gymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddi ymgynghoriad Cyngor Caerdydd ar ei gyllideb ar gyfer 2023/24.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Derbyniwyd y cynnig.
6 Trafod y dystiolaeth - P-06-1307 Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu gwaith cynnal a chadw ystadau tai newydd gan awdurdodau lleol
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth, a chytunodd i baratoi papur cwmpasu i amlinellu cylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad ar y mater.